Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Tachwedd 2019
Amser:
13.05 -
16.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5629
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Adam Price AC |
Tystion: |
Shan Morgan, Llywodraeth Cymru Peter Kennedy, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru Jeff Farrar, Llywodraeth Cymru Natalie Pearson, Llywodraeth Cymru Ann Keane, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mike Usher Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Jenny Rathbone AC.
1.3 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad mewn perthynas â digwyddiadau diweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch ffordd liniaru’r M4 a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gyda barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw waith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn yr Adolygiad Burns.
4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor y drydedd sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i anfon adroddiad cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn ynghylch gwaith gweithgor Llywodraeth Cymru ar gyfer hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Fel rhan o waith craffu’r Pwyllgor ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19, trafododd yr Aelodau rôl cyfarwyddwyr anweithredol gydag Ann Keane a Jeff Farrar.
7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cafodd yr eitem hon ei gohirio.